Mae’r ymgais i ennill Mosul oddi ar y Wladwriaeth Islamaidd (Daesh) wedi arafu wrth i luoedd Irac symud tuag at bentrefi mawr lle mae niferoedd uchel o bobol gyffredin yn byw.
Mae lluoedd Irac, sy’n cynnwys dros 25,000 o filwyr, wedi cyrraedd rhannau deheuol a dwyreiniol Mosul, gan gynnwys trefi Cristnogol al-Hamdaniyah ac al-Houd.
Mae’r lluoedd hefyd wedi cipio chwe phentref arall dros y deudydd diwetha’.
Fe allai’r brwydro bara rhai wythnosau, os nad misoedd, ac mae pryderon y gallai arwain at argyfwng dyngarol.
Erbyn dydd Llun, roedd lluoedd Cwrdaidd wedi adennill 80 milltir sgwâr, yn ôl yr awdurdodau, gan gynnwys naw pentref, gan wthio Daesh yn ôl ryw bum milltir.
Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau mai’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau bod y miliwn o bobol sy’n byw ym Mosul yn derbyn cymorth dyngarol.
Mae mwy na 100 o filwyr o’r Unol Daleithiau’n cefnogi lluoedd Irac.