Ched Evans (Llun: Chris Radburn/PA)
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i honiadau bod y ddynes a oedd wedi honni iddi gael ei threisio gan y pêl-droediwr Ched Evans wedi cael ei henwi yn dilyn yr achos llys.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, cafwyd ymosodwr Chesterfield a Chymru yn ddieuog o dreisio’r ferch, a oedd yn 19 oed ar y pryd, mewn gwesty yn Y Rhyl yn 2011.
Mae’r Ditectif Brif Arolygydd Jason Devonport yn arwain yr ymchwiliad ar ôl i’r achwynydd gael ei henwi unwaith eto ar gyfryngau cymdeithasol.
Meddai: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i honiadau dan Adran 5 Deddf Troseddau Rhywiol, a bydd unrhyw un fydd yn cael ei ddal yn cyflawni’r troseddau hyn yn cael ei ymchwilio a’i gosbi.
“Hoffwn atgoffa pawb fod gan yr achwynydd hawl i aros yn anhysbys am weddill ei hoes”.
Cafwyd Ched Evans, 27, yn euog o’r cyhuddiad mewn achos yn Llys y Goron Caernarfon yn 2012 ond cafodd ei euogfarn ei ddiddymu yn ddiweddarach gan y Llys Apêl, wedi iddo dreulio dwy flynedd a hanner dan glo.