Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu buddsoddiad ychwanegol at yr iaith Gymraeg fel rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, wedi i Lafur ddod i gytundeb â Phlaid Cymru.
Mae’r gyllideb yn cynnwys £5 miliwn ychwanegol tuag at brosiectau i hybu’r Gymraeg; gan gynnwys cynorthwyo gwasanaeth Cymraeg i Oedolion a sefydlu Asiantaeth Iaith Genedlaethol.
Mae’r cymal hwn yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru i geisio cyrraedd eu nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Wrth groesawu’r buddsoddiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am dargedu’r adnoddau dysgu Cymraeg hyn ar gyfer gweithwyr ym meysydd gofal ac addysg.
‘Targedu gweithlu addysg ac iechyd’
Yn ôl Heledd Gwyndaf, Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, “er mwyn gwneud y gorau o’r arian ychwanegol i Gymraeg i Oedolion, mae’n rhaid ei dargedu ar feysydd gwaith o bwys megis y gweithlu addysg, gofal iechyd a blynyddoedd cynnar.
“Ers nifer o flynyddoedd mae Cymru wedi bod yn tanfuddsoddi’n ddifrifol yn y Gymraeg ac felly nid ydym fel gwlad yn elwa’n llawn o’r manteision addysgiadol, diwylliannol ac economaidd a allai ddeillio o’n hiaith genedlaethol unigryw,” meddai.
Cyfeiriodd at sefyllfa’r Fasgeg yng Ngwlad y Basg gan ddweud “mae Llywodraeth y rhanbarth ymreolaethol yn gwario tua 1% o’u cyllideb ddatganoledig ar brosiectau i hyrwyddo’r Fasgeg; yma mae’r ffigwr yn parhau i fod yn llawer llai na hynny.”
Asiantaeth Iaith Genedlaethol
Fe wnaeth hefyd groesawu’r cyhoeddiad am greu Asiantaeth Iaith Genedlaethol, ond dywedodd na ddylai hynny fod ar draul gwaith Comisiynydd y Gymraeg.
“Yn ystod y ddadl am Fesur y Gymraeg saith mlynedd yn ôl roedden ni’n gyson yn galw am gorff i hyrwyddo’r Gymraeg ar wahân i Gomisiynydd y Gymraeg,” meddai.
“Mae’n bwysig nad yw’r buddsoddiad yn dod ar draul gwaith Comisiynydd y Gymraeg, corff sydd wedi dioddef toriadau difrifol sy’n effeithio ar ei allu i amddiffyn a hybu hawliau pobl i’r Gymraeg.”
Mae’r mudiad Dyfodol i’r Iaith hefyd wedi croesawu elfennau o Gyllideb ddrafft y Llywodraeth.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “Dyma’r math o ymrwymiad mae’r Gymraeg ei wir angen. Mae dysgu’r Gymraeg i oedolion, ac yn enwedig i rieni, a darpar-rieni, a’r sawl sy’n darparu gwasanaethau, wedi bod yn uchel ar ein rhestr blaenoriaethau o’r cychwyn.
“Rydyn ni hefyd wedi bod yn galw am Asiantaeth Iaith fydd yn rhydd i roi pwyslais ar hybu’r iaith yn iaith fyw a naturiol yn y gymuned.”