Yr eryr aur yng nghegin Adam Smith ym Mhenfro Llun: RSPCA
Mae dyn wedi cael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd ar ôl cadw eryr aur mewn cegin fudr.
Roedd Adam Smith, 54, sydd o Firmingham yn wreiddiol, wedi cadw’r eryr mewn cegin fflat ym Mhenfro. Roedd eisoes wedi pledio’n euog i un drosedd o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid yn Llys Ynadon Llanelli ym mis Mai.
Cafodd yr elusen RSPCA eu galw ym mis Ionawr 2015 ar ôl derbyn adroddiadau fod yr eryr yn cael ei gadw mewn lleoliad amhriodol.
Clywodd y llys bod Adam Smith wedi methu cadw’r eryr mewn amgylchedd addas a oedd yn lan ac yn rhydd o beryglon.
‘Achos hynod unigryw’
Dywedodd arolygydd yr RSPCA, Keith Hogben: “Roedd hwn yn achos hynod unigryw achos dydych chi’n sicr ddim yn disgwyl gweld eryr aur yng nghegin rhywun. Dyna’r peth mwyaf gwallgo a welais erioed. Mae’r peth tu hwnt i amgyffred.
“Cafodd ei chadw o dan amodau ffiaidd a oedd yn gwbl anaddas i unrhyw anifail, heb sôn am eryr aur.
“Mae eryrod aur angen gofal arbenigol ac ni ddylai aelodau o’r cyhoedd fod yn gofalu amdanynt yn eu cartrefi.”
Cafodd Adam Smith hefyd orchymyn i dalu dirwy o £73, gorchymyn i dalu £200 o gostau llys a chafodd orchymyn cymunedol 12 mis.
Meddai’r RSPCA bod yr eryr – sydd oddeutu tair i bedair blynedd oed – ar hyn o bryd yn cael gofal arbenigol ac yn gwneud yn dda.