Yn dilyn ymddiswyddiad Dafydd Elis-Thomas o Blaid Cymru nos Wener, mae pwyllgor ei etholaeth, Dwyfor Meirionnydd, yn apelio arno i roi’r gorau i’w sedd.

Wrth ddiolch iddo am ei waith dros Blaid Cymru a’r etholaeth ers 1974, dywedodd llefarydd ar ran y pwyllgor etholaeth:

“Rydan ni’n drist ac yn siomedig efo’i ymadawiad.

“Mae pwyllgor lleol yr etholaeth rwan yn apelio i’w gydwybod ac yn gofyn iddo ymddiswyddo i ganiatáu is-etholiad.”

Mae datganiad y pwyllgor etholaeth yn dilyn galwad debyg gan Blaid Cymru’n ganolog, sydd hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cychwyn y broses o ddewis ymgeisydd newydd ar gyfer yr etholaeth.

Er nad yw Dafydd Elis-Thomas ei hun wedi ymateb i’r alwad hyd yma, mae sylw a wnaeth mewn cyfweliad estynedig  gyda Golwg360 yn gynharach yr wythnos yn awgrymu’n gryf nad oes ganddo unrhyw fwriad i ymddiswyddo fel AC.

Dywedodd ar gychwyn y cyfweliad ei fod yn bwriadu parhau fel Aelod Cynulliad am y tymor yma, gan ychwanegu ei fod yn rhagweld mai ef fydd aelod cyntaf ac olaf Dwyfor Meirionnydd yn wyneb ad-drefnu tebygol ar etholaethau.

Er ei fod yn gwrthod cyfle i gymeradwyo Leanne Wood fel arweinydd, ac yn pwysleisio na fyddai ganddo unrhyw ddiddordeb mewn arwain Plaid Cymru ei hun, nid oes dim byd yn y cyfweliad sy’n awgrymu ei fod ar fin ymddiswyddo.

Awgrym

Daeth yr awgrym cyntaf o’i fwriad tua 6 o’r gloch neithiwr ar ei gyfrif trydar gyda dyfyniad o gerdd Waldo Williams: “O Gymru’r gweudir gwrm a’r garn, Magwrfa annibyniaeth barn.”

Yn ddiweddarach y noson, cyhoeddodd ei fwriad i gyfarfod stormus o’i bwyllgor etholaeth.

Er iddo ymbelláu oddi wrth ei blaid dros y blynyddoedd a bod yn ddraenen yn ei hystlys yn aml, yn enwedig ers i Leanne Wood ddod yn arweinydd, mae ei ymddiswyddiad yn sicr yn ergyd i Blaid Cymru.

Mae’n gwanhau statws Plaid Cymru fel prif wrthblaid y Cynulliad gan mai 11– yr un nifer â’r Ceidwadwyr – o Aelodau Cynulliad sydd ganddi bellach.

Er ei bod wedi ennill a cholli aelodau dros y blynyddoedd, gyda dau gyn-aelod, Alun Davies a Guto Bebb, bellach yn weinidogion mewn llywodraeth, prin fod hynny i’w gymharu ag ymadawiad cyn-lywydd.

Y tro diwethaf iddi golli ffigur mor amlwg o’i rhengoedd oedd pan adawodd Elystan Morgan am y Blaid Lafur dros 50 mlynedd yn ôl.

Beirniadaeth 

Mae rhai o ffigurau amlwg Plaid Cymru wedi bod yn beirniadu Dafydd Elis-Thomas ar eu gwefannau Trydar heddiw.

Gan ei gyhuddo o gamarwain etholwyr dywed Rhun ap Iorwerth, AC Môn:

“Bydd disgwyl isetholiad buan yn Nwyfor Meirionnydd wedi i Dafydd adael Plaid Cymru. Siwr bydd siom fawr ymhlith etholwyr gafodd eu camarwain.”

Neges debyg sydd gan Adam Price, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:

“Fel sosialydd gynt mae’n siwr y bydd Dafydd Elis Thomas yn cytuno i is-etholiad. Hanfodol i gynnal ffyrdd pobol yn y broses ddemocrataidd.”

Mae beirniadaeth un o gyn-lywyddion y Blaid, Dafydd Iwan, yn fwy personol:

“Ni lwyddodd Dafydd El erioed ei roi ei genedl a’i blaid o flaen ei ego ei hun,” meddai. “Diolch frawd, a ffarwel. AC newydd i Feirion.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Dafydd Elis-Thomas am ymateb.