Y llun o wyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2017, (Llun o gyfrif Twitter Huw Irranca Davies)
Mae cadeirydd newydd Panel Dyngarol yr Urdd wedi dweud wrth golwg360 ei bod yn “allweddol bwysig” bod yr Urdd yn “gynhwysol”.

Daw sylwadau Aled Edwards, yn dilyn ffrae am lun gafodd ei dynnu o Aelod Cynulliad UKIP a Mr Urdd yn ystod gŵyl gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2017 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Yn ôl yr ymgyrchydd iaith Simon Brooks, roedd cynnwys aelod UKIP mewn llun o’r fath yn “amhriodol”.

Dywedodd wrth golwg360: “Mae UKIP yn blaid sy’n gysylltiedig â chasineb at fewnfudwyr, a dydw i ddim yn meddwl ei bod hi’n briodol bod plaid o’r fath yn cael ei chynrychioli mewn rhywbeth mor bwysig â seremoni gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd.”

Wrth drafod ei waith newydd ar y panel, dywedodd y Canon Aled Edwards ei fod yn credu bod Cymru yn “llai goddefgar nag oedd o.”

“Oherwydd hynny, mae o’n allweddol bwysig bod yr Urdd yn gwneud ei waith a bod ni yn gwneud yn eglur bod ganddom ni Gymru sydd yn groesawgar ac yn gynhwysol a bod ein Cymreictod ni hefyd yn amrywiol,” meddai.

“Rydan ni’n gwasanaethu wrth gwrs, cymunedau traddodiadol Cymraeg ond ydan ni hefyd yn estyn allan i gymunedau newydd lle mae plant bach Casnewydd o dras Fwslimaidd ‘ella yn ymuno â’r Urdd hefyd.”

Neges ewyllys da

Mae Aled Edwards yn brif weithredwr mudiad Cytûn [Eglwysi ynghyd yng Nghymru] ers 2006, ac yn dod yn wreiddiol o Drawsfynydd, Gwynedd.

Ei brif waith fel cadeirydd Panel Dyngarol yr Urdd fydd arwain y gwaith o greu neges ewyllys da’r mudiad eleni, gan weithio gyda Bwrdd Syr IfanC yn y broses.

Bydd hefyd yn arwain ar brosiectau dyngarol eraill fel Sul yr Urdd, teithiau tramor a datblygu gwaith dyngarol yr Urdd i feysydd newydd.

Mae wedi treulio blynyddoedd fel gweinidog yr Eglwys yng Nghymru ledled y wlad ac mae hefyd â diddordeb arbennig mewn materion yn ymwneud â cheiswyr lloches a ffoaduriaid.

Fe ar hyn o bryd yw cadeirydd Displaced People in Action a bu’n gadeirydd ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru, ac yn Gomisiynydd Cymru ar y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.

Mae e’n cymryd lle’r cyn-gadeirydd, Edward Morus Jones, oedd yn y swydd wirfoddol am 25 mlynedd.