Mae dyn o Scunthorpe wedi ei garcharu am chwe blynedd wedi iddo daro dau gerddwr gyda’i gerbyd.

Fe gafodd yr ymosodiad ‘road rage’ “dychrynllyd” ei ffilmio gan gamerâu cylch cyfyng.

Fe achosodd Mohammad Abdullah anafiadau lu i’r ddau gerddwr fis Ebrill eleni.

Er iddo gydnabod bod yr hyn a wnaeth yn ofnadwy, fe gafodd ei garcharu am chwe blynedd a’i wahardd rhag gyrru am wyth yn Llys y Goron Grimsby.

Dywedodd y Barnwr Peter Kelson wrth Mohammad Abdullah: “Dyma ddigwyddiad anarferol, ond dychrynllyd, yn eich bywyd.

“Dyma un bennod ofnadwy. Roedd gyrru fel hyn yn erchyll.

“Rydych wedi byw bywyd heddychlon, adeiladol gan fagu teulu, oni bai am y 15 eiliad yma o’ch bywyd pan wnaethoch chi’r peth gwallgof yma mewn tymer ddrwg.”