Ched Evans (Llun: Chris Radburn/PA)
Mae’r pêl-droediwr Ched Evans wedi gwadu iddo geisio cuddio ei wyneb rhag camerâu cylch cyfyng wrth adael  gwesty yn Y Rhyl lle honnir iddo dreisio dynes.

Wrth i’r achos barhau yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, mae Ched Evans yn mynnu fod y ferch wedi cydsynio iddo ymuno â’r gweithredoedd rhyw rhyngddi hi â’i ffrind, y pêl-droediwr Clayton McDonald bedair blynedd yn ôl.

Ond, mae erlynwyr yn honni bod y ddynes, oedd yn 19 oed ar y pryd, yn rhy feddw i gydsynio i’r gweithredoedd ac nad oes ganddi gof o wneud.

‘Gwadu cuddio wyneb’

Dyma’r ail wrandawiad i achos Ched Evans, wedi i’r euogfarn wreiddiol yn ei erbyn yn Llys y Goron Caernarfon gael ei ddiddymu gan y Llys Apêl gan arwain at ail achos. Cafwyd Clayton McDonald yn ddieuog o’r drosedd yn yr achos gwreiddiol.

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, dangoswyd clip byr o Ched Evans, 27 oed, yn gadael y gwesty Premier Inn ger y Rhyl trwy allanfa dân yn ystod oriau mân Mai 30, 2011.

Mae’n gwadu ceisio cuddio ei wyneb rhag y camerâu wrth adael.

‘Plentynnaidd’

Wrth gael ei groesholi ddoe, dywedodd Ched Evans ei fod wedi bod yn “blentynnaidd” wrth fynd i ystafell ei ffrind a’r ddynes ar ôl noson allan gyda’i ffrindiau.

Mae’n cyfaddef “dweud celwydd” yn nerbynfa’r gwesty er mwyn cael allwedd i’r ystafell, gan ddweud nad oedd ei ffrind angen yr ystafell bellach.

Mae’n honni fod Clayton McDonald wedi gofyn i’r ddynes “all fy ffrind ymuno?” a bod hithau wedi edrych arno cyn cytuno.

Gofynnodd yr erlynydd iddo a wnaeth ef siarad â’r ddynes o gwbl, gan awgrymu nad oedd hi’n  ymwybodol mai ef oedd yn cymryd rhan yn y weithred rywiol gyda hi.

Dywedodd Ched Evans: “Roedd hi’n gwybod mai fi oedd e. Byddwn i ddim yn gwneud unrhyw beth i frifo merch, ac ni fyddwn yn cyflawni gweithred rywiol eneuol ar unrhyw un nad oedd yn gofyn imi wneud.”

Ychwanegodd: “Nes i ddim gofyn cwestiwn. Roeddem wedi ein dal yn y foment. Doedd hi ddim yn adeg iawn am sgwrs.”

Mae’r achos yn parhau.