Mae un o lawfeddygon arbenigol Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi cyfrannu at lyfr fydd yn cael ei ddosbarthu i feddygon teulu ar draws y Deyrnas Unedig i’w helpu i adnabod mathau gwahanol o gancr y pen a’r gwddf.

Mae’r llyfrau wedi eu cynhyrchu gan Gymdeithas Llawfeddygon Prydeinig Geneuol a Genol-Wynebol ac yn cael eu dosbarthu o ganlyniad i gynnydd yn y math hwn o gancr.

Mae ffigurau’n dangos y bu 7,591 o achosion newydd o gancr geneuol yn y Deyrnas Unedig yn 2013, gydag arbenigwyr yn beio alcohol, ysmygu a diet wael amdano.

Yn ôl Alex Goodson o Ysbyty Treforys ac un o gydawduron y llyfr; “mae hwn yn adnodd amhrisiadwy i fyfyrwyr meddygol a’r rheiny mewn meddygfeydd.

“Mae’r llyfr wedi’i ddylunio i addysgu clinigwyr mewn gofal sylfaenol am ran o ofal iechyd nad oes llawer wedi cael hyfforddiant yn ei gylch,” meddai.

Dywedodd hefyd mai bwriad y llyfr yw helpu meddygon i adnabod y symptomau a chyfeirio cleifion at driniaeth ynghynt.

“Rwy’n credu y bydd hyn arbed bywydau ac yn golygu triniaeth lai ymosodol a thymor hir i gleifion,” meddai wedyn.