Ched Evans (Llun: Chris Radburn/PA)
Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed heddiw sut yr aeth y pêl-droediwr Ched Evans i ystafell wely mewn gwesty ger Y Rhyl bedair blynedd yn ôl gan ymuno â’i ffrind a dynes arall yn y gwely.

Mae Ched Evans, 27 oed, yn gwadu’r cyhuddiadau sydd yn ei erbyn o dreisio’r ddynes yn y gwesty Premier Inn yn ystod oriau mân Mai 30, 2011.

Dywedodd y pêl-droediwr a arferai chwarae i Gymru ac sydd bellach wedi arwyddo cytundeb gyda chlwb Chesterfield, ei fod yn “blentynnaidd” wrth benderfynu mynd i weld y pâr am 4 y bore yn dilyn noson feddwol gyda’i ffrindiau.

Esboniodd ei fod wedi cael allwedd-gerdyn o dderbynfa’r gwesty cyn mynd i mewn at ei ffrind a’r peldroediwr Clayton McDonald, a’r ddynes arall.

‘Bod yn blentynnaidd’

“Doeddwn i ddim yn gwybod i sicrwydd beth oedd yn digwydd yn yr ystafell (cyn iddo fynd  i mewn),” meddai wrth y rheithgor.

“Fe wnes i feddwl y gallen nhw fod yn cael rhyw. Allwn i ddim â bod yn siŵr, ond fel dywedais i, roeddwn i’n bod yn blentynnaidd.”

Dywedodd ei fod wedi edrych ar Clayton McDonald a bod hwnnw wedi gofyn i’r ddynes “all fy ffrind ymuno?”

Dywedodd Ched Evans wrth y rheithgor bod y ddynes wedi “edrych arna’ i ac yna dweud ‘ie.”

Mae’r pêl-droediwr yn mynnu bod y ddynes wedi cydsynio i gael rhyw gydag ef ac nad oedd hi’n rhy feddw i wneud hynny. Dywedodd hefyd bod y ferch “i weld yn mwynhau ei hun.”

Fe gafodd Ched Evans ei ganfod yn euog o dreisio yn Llys y Goron Caernarfon, ond fe gafodd yr euogfarn ei ddileu gan y Llys Apêl gan alw am yr ail achos hwn.

Fe fydd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd yn parhau bore dydd Mawrth.