Dur cwmni Liberty House (llun o wefan y cwmni)
Mae’r cwmni dur Liberty House wedi lansio busnes heddiw fydd yn ailgylchu metel, gan gyhoeddi bod un o’r canolfannau prosesu yn mynd i gael eu lleoli yng Nghasnewydd.

Mae melin stribed poeth tua mil o dunelli yn gweithredu ar y safle hwn yn barod, ac mae disgwyl i ganolfannau eraill y busnes ailgylchu agor yn yr Alban, Gogledd Ddwyrain, De Ddwyrain a Chanolbarth Lloegr.

Yn ôl y cwmni Liberty House, mae hyn yn rhan o gynlluniau’r cwmni i fynd i’r afael â dyfodol cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig.

Maen nhw’n gobeithio hefyd datblygu’r busnes ailgylchu yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop.

Yn ôl Sanjeev Gupta, Cadeirydd gweithredol Liberty House, mae’r lansiad heddiw yn “gam sylweddol iawn” i’r diwydiant dur.

“Mae’r twf sy’n cael ei ragweld yng nghyflenwad o sgrap yn y Deyrnas Unedig ac mewn economïau datblygedig eraill dros y blynyddoedd nesaf yn darparu sail ar gyfer diwydiant dur cryf, cystadleuol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol,” meddai.