Llansannan: menter gymunedol yng Nghonwy
A oes angen cadw’r cyfleusterau cyhoeddus ledled Cymru? A os oes, pwy ddylai dalu amdanyn nhw?
Yn y cynta’ mewn cyfres newydd, Pwnc Poeth, yr hyn sydd dan sylw y tro hwn ydi’r cannoedd o dai bach sydd ar gael i deithwyr rhwng gogledd a de Cymru.
Ym mis Awst eleni, fe bleidleisiodd 93% o drigolion Maenclochog yn Sir Benfro tros ddal ati i dalu am y cyfleusterau cyhoeddus yn eu pentre’ nhw – er budd ymwelwyr, ac er eu mwyn eu hunain.
Ac mae’n ddeng mlynedd eleni ers i doiledau cyhoeddus pentre’ Erwyd, ar fin priffordd yr A470 yn y canolbarth, gael eu hachub wedi protest gan drigolion lleol. Bryd hynny, fe gamodd Llywodraeth Cymru i mewn i’r ddadl, a rhoi grant gwerth cyfanswm o £20,000 er mwyn cadw pump o doiledau yn agored ym Mhowys.
Yn y cyfamser, fe dderbyniodd rhai sefydliadau, siopau a gwestai ledled y wlad arian er mwyn iddyn nhw ganiatau i’r cyhoedd gael gwneud defnydd o doiledau a fwriadwyd ar gyfer eu cwsmeriaid, ac maen nhw’n arddangos poster yn eu ffenestri i’r perwyl.
Ac mae rhai cymunedau, wedyn – yn Llansannan a Gwytherin, er enghraifft – wedi dewis rhedeg a chadw ac addurno eu toiledau pentrefol eu hunain.
Cyfleusterau cyhoeddus: angenrheidiol, neu gost ddiangen? Ac os oes ar Gymru eu hangen nhw, pwy sy’n eu cadw ac yn eu glanhau? Yn lle mae’r goreuon… a’r gwaetha’?