Roger Bevan (Llun: Undeb Unsain)
Mae dyn 22 oed wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar ar ôl pledio’n euog i achosi marwolaeth un o drefnwyr rhanbarthol undeb Unsain trwy yrru’n beryglus.

Bu farw Roger Bevan, 50, ar ôl i’w gar fod mewn gwrthdrawiad a char Jack Weston ar ffordd y B4337yng Nghilcennin ger Llanbedr Pont Steffan fis Gorffennaf diwethaf.

Ym mis Medi fe newidiodd Jack Weston, o Dir Bach, Cilcennin, ei ble a chyfaddef lladd Robert Bevan drwy yrru’n beryglus.

Yn dilyn cyhoeddi’r ddedfryd yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd Ken Bevan, tad Roger Bevan:

“Ni fydd unrhyw ddedfryd yn dod a Roger yn ôl. Ond fedra’ i ddim gweld sut y bydd dedfryd carchar o ddwy flynedd yn gosb ddigonol a fydd yn gwneud i eraill ail-feddwl cyn gyrru mewn fordd mor hunanol, blêr a pheryglus fel y gwnaeth Jack Weston pan achosodd marwolaeth fy mab y llynedd.”

Bydd cronfa yn cael ei sefydlu i gofio’r parch tuag at Roger Bevan fel swyddog yn ardal Ceredigion, Sir Benfro a Chaerfyrddin.