Llys y Goron yr Wyddgrug, Llun: Wikipedia
Mae cyn-bennaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei gyhuddo o “ddweud celwydd ar lw” ynglŷn ag achos o gam-drin plant yn rhywiol.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw fod Gordon Anglesea wedi dweud pethau gwahanol rhwng ei wrandawiad cyntaf yn 1994 a’r gwrandawiad presennol eleni ynglŷn â’r nifer o weithiau y byddai’n ymweld â chawodydd y bechgyn ifanc yn y ganolfan roedd yn ei rhedeg yn Wrecsam.

Mae Gordon Anglesea, 79 oed o Fae Colwyn, yn gwadu cam-drin dau fachgen yn yr 1980au, a’r wythnos diwethaf galwodd yr honiadau yn ei erbyn yn “sothach llwyr.”

Mae’r achos yn parhau.