Y Cynulliad Cenedlaethol
Mae pwyllgor newydd wedi cael ei sefydlu yn y Cynulliad a’r cyhoedd fydd yn penderfynu ar ei raglen waith.

Am y tro cyntaf, fe roddwyd cyfle i bobol ddweud beth yr hoffen nhw i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ganolbwyntio arno. Roedden nhw’n cynnwys:

  • Sut y gellir cyflawni’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • Pryder am y dirywiad parhaus yn y cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol
  • Diffyg portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU
  • Rôl radio yng Nghymru
  • Cylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C

Y strategaeth Gymraeg fydd yn cael y brif flaenoriaeth a bydd pleidlais arall, sy’n cau ar 14 Tachwedd, ar ôl y gwaith hwnnw er mwyn penderfynu beth fydd y pwyllgor yn mynd i’r afael ag ef nesaf.

Fe ddeilliodd y pwyllgor o syniad yr AC Bethan Jenkins a bydd yn craffu ar ystod o unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau yn ei waith dros y pum mlynedd nesaf.

Wyth Aelod Cynulliad sydd yn ffurfio’r pwyllgor newydd ac mae detholiad o bedair plaid wleidyddol ynddo – Bethan Jenkins, Cadeirydd (Plaid Cymru); Hannah Blythyn (Llafur); Dawn Bowden (Llafur); Jeremy Miles (Llafur); Lee Waters (Llafur); Dai Lloyd (Plaid Cymru); Suzy Davies (Ceidwadwyr); Neil Hamilton (UKIP).