Gloyn Byw Gwyn Mawr (Llun: Andrew Cooper)
Mae nifer y gloÿnnod byw a welwyd yng Nghymru dros yr haf wedi disgyn yn sylweddol o gymharu â’r llynedd.

Dyna ganfyddiad Cyfrifiad yr Haf gan elusen Gwarchod y Gloÿnnod Byw  sydd hefyd yn nodi gostyngiad o ran y nifer a welwyd ar draws gwledydd Prydain hefyd.

Roedden nhw’n tynnu sylw at leihad yn nifer y gloÿnnod byw cyffredin, gan gynnwys Iâr Fach y Glaw, Llwyd y Ddol a’r Glöyn Trilliw Bach.

Yn ogystal, mae nifer y glöyn byw yr Adain Garpiog a welwyd eleni ar draws y Deyrnas Unedig wedi disgyn o 3.6 ar gyfartaledd yn 2013 i 0.5 eleni.

‘Tywydd gwlyb yn ffactor’

Yn ôl Russel Hobson, Pennaeth Cadwraeth elusen Gwarchod Gloÿnnod Byw Cymru: “mae’r tywydd yng Nghymru wedi bod yn ffactor gyda mis Mehefin yn llawer gwlypach na’r arfer, gan amharu ar gylchoedd bywyd y gloÿnnod cyn y cyfrifiad.”

Mae’r cyfrifiad yn digwydd am dair wythnos rhwng Gorffennaf 15 ac Awst 7, ac fe gymerodd 36,000 o bobol ran ynddo eleni er mwyn nodi faint, a pha loÿnnod byw, oedden nhw’n gweld yn y cyfnod hwnnw.

Y glöyn byw Gwyn Mawr oedd y rhywogaeth fwyaf niferus yng Nghymru, lle gwelwyd 85% yn fwy ohonyn nhw na’r llynedd.

Dyma restr o’r gloÿnnod byw mwyaf niferus yn ystod y cyfrifiad yng Nghymru dros yr haf:

1. Glöyn Byw Gwyn Mawr

2. Glöyn Byw Gwyn Bach

3. Llwyd Bach y Ddol (Gatekeeper)

4. Llwyd y Ddol

5. Mantell Goch

6. Glöyn byw Gwyn a Gwythïen werdd

7. Iâr fach lygadog

7. Glöyn Trilliw bach

8. Iâr fach y Glaw

9. Brith y coed.