Nathan Gill Llun: Ukip
Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, wedi dweud wrth y BBC nad yw’n gwybod a fydd yn dal i fod yn aelod o’r blaid ymhen blwyddyn.
Dywedodd Nathan Gill, sy’n eistedd fel Aelod Cynulliad annibynnol ym Mae Caerdydd, ei fod yn “teimlo embaras” yn sgil y gwrthdaro o fewn y blaid.
Daw ei sylwadau ar ôl i ddau ASE UKIP fod mewn ffrae honedig.
Cafodd ASE UKIP Steven Woolfe ei gludo i’r ysbyty ddydd Iau diwethaf yn dilyn ffrwgwd gyda’r ASE Mike Hookem yn Senedd Ewrop yn Strasbwrg ar ôl cyfarfod rhwng aelodau’r blaid.
Mae Steven Woolfe, a oedd yn ffefryn i fod yn arweinydd y blaid, bellach wedi gadael yr ysbyty.
Mae Mike Hookem yn gwadu iddo roi pwniad i Steven Woolfe ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Dywedodd Nathan Gill wrth BBC Radio Wales ei fod wedi ei “dristau gan ymddygiad nifer o bobl yn fy mhlaid ar hyn o bryd.”
Mae’n dilyn wythnos “hunllefus” i UKIP ar ôl i gyn-arweinydd y blaid Diane James gyhoeddi ei bod yn gadael ei swydd ar ôl llai na thair wythnos, gyda Nigel Farage yn dychwelyd yn ei lle.