Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae dau chwip y Blaid Lafur, Conor McGinn a Holly Lynch, wedi ymddiswyddo ar ôl i’r brif chwip Rosie Winterton gael ei diswyddo yn yr adrefnu dadleuol gan Jeremy Corbyn o gabinet yr wrthblaid.

Fe fu na wrthwynebiad chwyrn i’r penderfyniad i ddiswyddo  Rosie Winterton, gyda chadeirydd y blaid seneddol John Cryer yn ysgrifennu at Aelodau Seneddol i brotestio yn erbyn y ffaith ei fod ef a’r brif chwip wedi cael eu cadw yn y tywyllwch am yr adrefnu, er gwaetha’r ffaith eu bod wedi cynnal trafodaethau gyda’r arweinydd ynglŷn â chaniatáu i aelodau ethol rhai aelodau o gabinet yr wrthblaid.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: “Rydym yn diolch i Conor McGinn a Holly Lynch am eu gwasanaethau. Fe fydd eu swyddi yn cael eu llenwi yn y man.”

Ond mae ffynonellau sy’n agos at Jeremy Corbyn wedi awgrymu bod disgwyl i Conor McGinn gael ei ddiswyddo pan fyddai’r adrefnu yn cael ei gyhoeddi.