Nathan Gill
Steven Woolfe, y ffefryn i arwain plaid UKIP, wedi cynnig “estyn llaw” mewn gweithred o gyfeillgarwch i’w gyd-Aelod Seneddol Ewropeaidd, yn dilyn ffrae gorfforol honedig.

Ar ôl ymweld ag ef mewn ysbyty yn Strasbwrg, dywedodd ASE Cymru Nathan Gill bod Steven Woolfe wedi dweud bod pethau wedi “mynd allan o bob rheolaeth” yn y digwyddiad rhyngddo ef a Mike Hookem yn y Senedd Ewropeaidd.

Yn ôl rhai adroddiadau roedd Steven Woolfe wedi cael dwrn a tharo ffrâm drws cyn disgyn i’r llawr. Cafodd ei gadw yn yr ysbyty am 48 awr ac fe gafodd sgan ar ei ymennydd, ond mae bellach yn gwella.

“Roedden ni’n poeni go-iawn ar un cyfnod,” meddai Nathan Gill, wnaeth gyhoeddi ym mis Awst ei fod am adael ei sedd fel AS UKIP eistedd fel Aelod Cynulliad annibynnol ym Mae Caerdydd.

Bydd ymchwiliad i’r ffrwgwd yn cael ei arwain gan Gadeirydd y blaid.