Nid Blaenau Gwent yw’r ardal rataf yng Nghymru a Lloegr i brynu tŷ erbyn hyn, yn ôl arolwg diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r arolwg hefyd wedi canfod bod prynu tŷ yng Nghymru wedi mynd yn llai fforddiadwy ers 2002 – o ganlyniad i gynnydd mewn prisiau tai o’i gymharu â’r cynnydd mewn cyflog cyfartalog blynyddol.

Rhwng 2002 a 2015, mae pris tŷ arferol wedi codi 2% bob blwyddyn yng Nghymru.

Mae tŷ ym Mlaenau Gwent yn costio tua £77,000 ar gyfartaledd, ond Burnley yw’r lle rhataf yn y ddwy wlad i brynu tŷ erbyn hyn. Ar ben arall y rhestr, byddai pris cyfartalog tŷ yn Kensington, Chelsea yn £1.2 miliwn.

“Er bod tai cymdeithasol wedi dod yn fwy fforddiadwy yn 2015, mae’r gost o brynu tŷ wedi parhau i godi,” meddai Nigel Henretty, Pennaeth Dadansoddi Tai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Yn dweud hynny, mae adfeddu morgais wedi gostwng i’r lefel isaf mewn degawd, wedi’i gefnogi gan gyfraddau llog hanesyddol isel”.

Mae’r ystadegau llawn i’w gweld yma: <https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/housing/articles/housingsummarymeasuresanalysis/2015>