Alun Cairns
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cael ei feirniadu am ei sylwadau ar raglen Question Time neithiwr ynghylch cymunedau Cymraeg a llosgi tai haf.
Wrth ymateb i gwestiwn ar fewnfudo ym Mhrydain, roedd Alun Cairns yn beirniadu arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, gan awgrymu nad yw aelodau ei phlaid yn croesawu siaradwyr Saesneg i gymunedau Cymraeg eu hiaith.
Dywedodd Alun Cairns fod “cymunedau yng Nghymru lle mae ymgyrchwyr cenedlaetholgar sy’n gweithredu yn uniongyrchol yn erbyn pobol sy’n dod i mewn.
“Doedd hi ddim mor hir yn ôl pan oedd bythynnod yn cael eu llosgi i’r llawr.”
Fe ddywedodd Leanne Wood ar y rhaglen fod ei sylwadau yn “warthus”.
Fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg Llywodraeth Cymru ei feirniadu ar Twitter hefyd, gan alw ei sylwadau yn “gywilyddus”.
“Mae ceisio cysylltu cefnogaeth i’n hiaith gyda hiliaeth yn ofnadwy,” meddai Alun Davies.
“Taflu baw”
Mewn datganiad heddiw, dywedodd Leanne Wood bod Alun Cairns yn euog o “wyrdroi hanes drwy daflu baw” ac o “wadu’r rhethreg niweidiol sy’n britho ei blaid Geidwadol ei hun ar hyn o bryd”.
“Mae Plaid Cymru’n blaid eangfrydig a rhyngwladol. Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad pawb yma, o ble bynnag y maent wedi dod yn wreiddiol,” ychwanegodd.
“Rydym yn gweithio’n galed tuag at gydraddoldeb, yn ceisio rhoi terfyn ar raniadau ac mae gennym hanes hir o ddathlu amrywiaeth. Mae gennym fwy o ddiddordeb mewn adeiladu pontydd na waliau.”
“Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn euog o bedlera’r union fath o nonsens sy’n magu gelyniaeth a throi pobl yn erbyn ei gilydd.
“Nid dyma’r fath o sylwadau fyddai rhywun yn eu disgwyl gan weinidog llywodraeth. Pe bai ganddo owns o onestrwydd byddai’n tynnu ei eiriau yn ôl.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Swyddfa Cymru.