Ched Evans
Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed bod Ched Evans wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd yn beth anghyffredin iddo fynd i’r gwely gyda chyfaill da iddo a dynes yr oedd ond wedi ei hadnabod ers ychydig funudau.

Mae’r pêl-droediwr 27 oed wedi ei gyhuddo o dreisio dynes mewn gwesty Premier Inn yn Y Rhyl yn oriau mân Mai 30, 2011.

Mae Ched Evans yn gwadu’r cyhuddiad, ac wedi dweud wrth yr heddlu bod y ferch dan sylw wedi cytuno iddo gael ymuno gyda’i gyfaill Clayton McDonald, pêl-droediwr arall, yn y gwely.

Fe ofynnodd yr heddlu a oedd y sefyllfa yn un gyffredin, ac fe ddywedodd Ched Evans: “Rydw i wedi cael tri-yn-y-gwely gyda Clay o’r blaen, pan oedden ni’n byw gyda’n gilydd (rhyw dair neu bedair blynedd yn ôl). Mae’r merched, maen nhw’n hoffi hynny, gan bod ganddyn nhw ddau bêl-droediwr yno.”

Fe gafodd Ched Evans ei ganfod yn euog o’r treisio yn Llys y Goron Caernarfon, ond fe gafodd yr euogfarn ei ddileu gan y Llys Apêl, sydd wedi galw am yr ail achos.