Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dweud bod un o asiantaethau amaethyddol gwledydd Prydain wedi torri ei gynllun iaith ei hun.
Yn ôl ymchwiliad Meri Huws, fe fethodd y Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain ateb 92.5% o alwadau i’w linell ffôn Gymraeg yn yr un iaith dros gyfnod o chwe mis.
Yn ôl yr Asiantaeth roedd eu cwsmeriaid yn cael cynnig galwad yn ôl gan siaradwr Cymraeg neu yn cael cynnig parhau â’r alwad yn Saesneg.
Ond mae’r Comisiynydd yn dweud nad yw un o’r ddau opsiwn yn cyd-fynd ag “ymrwymiad statudol y sefydliad” i ddarparu gwasanaeth ffôn yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae angen i’r asiantaeth hefyd gyhoeddi cynllun iaith Gymraeg cyfredol ar ei gwefan.
Cadw llygad am flwyddyn
Mae’r adroddiad yn nodi bod angen i’r Asiantaeth hysbysu’r Comisiynydd am flwyddyn o nifer y galwadau i’r llinell ffôn Gymraeg sy’n cael eu hateb yn y Gymraeg.
Fe ddechreuodd Comisiynydd y Gymraeg ymchwiliad i’r Asiantaeth Taliadau Gwledig yn dilyn cwyn gan aelod o’r cyhoedd.
“Os yw aelodau’r cyhoedd yn teimlo eu bod wedi cael gwasanaeth anfoddhaol am eu bod wedi ceisio’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg, mae ganddynt hawl i ddod ataf i gwyno, a dyna ddigwyddodd yn yr achos hwn,” meddai Meri Huws.
“Fe ystyriais gŵyn yr unigolyn a phenderfynu defnyddio pwerau statudol er mwyn cynnal ymchwiliad i ganfod a fu methiant i lynu at ddyletswyddau iaith.”
Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â’r Asiantaeth Taliadau Gwledig.