Mae ystadegau yn dangos bod mwy o ymwelwyr undydd yn dod i Gymru ac yn gwario mwy ar eu tripiau.

Heddiw, cyhoeddwyd Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr ac yn ôl yr arolwg hwnnw, yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Awst 2016 cafwyd 94.2 miliwn o ymweliadau undydd gan dwristiaid i Gymru. Roedd y gwariant a oedd yn gysylltiedig â hynny’n £3,516 miliwn.

Mae hynny’n gynnydd o 24.4% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac mae’r gwariant wedi cynyddu 32.5%.

Bellach, mae’r hyn mae pobl yn ei wario yn ystod pob ymweliad yn uwch ar gyfer Cymru nag ydyw ar gyfer Prydain gyfan. Wrth ymweld â Chymru mae pobl yn gwario £37, o’i gymharu â chyfartaledd o £35 ar gyfer gwledydd Prydain.

“Mae’r ffigurau hyn yn rhoi cipolwg defnyddiol ar berfformiad y diwydiant twristiaeth,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith.

“Mae clywed am y cynnydd mawr a gofnodwyd ar gyfer misoedd prysur yr haf yn newyddion ardderchog. Mae’r cynnydd hwn mewn ymweliadau undydd hefyd yn ategu’r adborth a gafwyd o’n Baromedr Twristiaeth.

“Dywedodd 84% o fusnesau a gymerodd ran yn yr arolwg hwnnw eu bod wedi cael haf naill ai’n brysurach neu’r un mor brysur â 2015 – a honno oedd y flwyddyn orau erioed i Gymru. Felly, mae’r gwaith yn parhau i ddenu pobol i Gymru yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf.”