Diane James
Mae arweinydd UKIP Diane James wedi ymddiswyddo ar ôl 18 diwrnod yn unig yn y swydd.

Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad, awgrymodd olynydd Nigel Farage mai rhesymau proffesiynol a phersonol sy’n gyfrifol am ei hymddiswyddiad.

Dywedodd nad oedd ganddi’r awdurdod i gfylwyno’r newidiadau yr oedd hi am eu cyflwyno i’r blaid.

Ond mae lle i gredu hefyd fod salwch ei gŵr ac ymosodiad diweddar arni yn Llundain hefyd yn ffactorau yn ei phenderfyniad.

Mewn datganiad, awgrymodd hi nad oedd hi wedi derbyn y swydd yn ffurfiol, ac mae enwebiad i arwain y blaid yn unig oedd ganddi.

Ers iddi gymryd at y swydd, mae ffrae fewnol yn y Cynulliad wedi bygwth dyfodol y blaid yng Nghymru ac un o’i chyfrifoldebau cyntaf fel arweinydd oedd ceisio datrys ffrae rhwng Neil Hamilton a Nathan Gill ynghylch arweinyddiaeth y blaid yn y Senedd.

Mae Steven Woolfe – un a gafodd ei atal rhag ymgeisio’r tro diwethaf – a Suzanne Evans yw’r ffefrynau i fod yn arweinydd.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pwy fydd yn arwain y blaid yn y cyfamser, gan nad oedd gan Diane James ddirprwy.

Mae Nigel Farage wedi wfftio adroddiadau y gallai ddychwelyd i’r swydd am y trydydd tro, gan ddweud ei fod e “wedi ymddeol”.

Bydd Diane James yn parhau’n Aelod o Senedd Ewrop tros Dde Ddwyrain Lloegr.