Darren Millar
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad brys ar ôl i chwe aelod o staff o Uned Iechyd Meddwl ym Mae Colwyn gael eu gwahardd o’u gwaith.
Cafodd y chwe aelod o staff eu gwahardd yn dilyn pryderon a godwyd gan aelod arall o staff yn Uned Iechyd Meddwl Pobl Hŷn Bryn Hesketh ym Mae Colwyn wythnos ddiwethaf ynglŷn ag agweddau o’r gofal i gleifion yn ôl AC Gorllewin Clwyd Darren Millar.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bellach wedi lansio ymchwiliad annibynnol i’r honiadau.
Datganiad brys
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Darren Millar AC: “Mae’r newyddion yma’n peri pryder – yn enwedig o ystyried bod y llwch eto i setlo ar sgandal Tawel Fan wnaeth siglo gogledd Cymru’r llynedd.
“Er fy mod yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y dyddiau diwethaf, mae’n hanfodol eu bod yn lleihau’r aflonyddwch i gleifion sy’n agored i niwed yn eu gofal a’u bod yn rhoi gwybodaeth lawn am y datblygiadau i’w teuluoedd.
“Yn ogystal, o gofio bod y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd mewn mesurau arbennig, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad brys ar y camau y mae’n eu cymryd i sicrhau bod y pryderon hyn yn cael eu hymchwilio’n briodol ac i ddarparu sicrwydd ar wasanaethau iechyd meddwl ar draws rhanbarth gogledd Cymru.”
‘Systemau a phrosesau cadarn’ – Betsi Cadwaladr
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn datganiad fod ganddyn nhw “systemau a phrosesau cadarn yn eu lle i fonitro ansawdd a diogelwch y gofal sy’n cael ei ddarparu.”
Ychwanegodd y llefarydd eu bod wedi dilyn yr holl brosesau sydd mewn lle ac wedi “ceisio gwasanaeth swyddog ymchwiliadau allanol annibynnol” er mwyn cryfhau eu prosesau ymhellach.
Meddai’r llefarydd: “Mae gennym systemau a phrosesau cadarn yn eu lle i fonitro ansawdd a diogelwch y gofal sy’n cael ei ddarparu ym mhob un o’n gwasanaethau iechyd meddwl. Os oes pryder yn cael ei godi gan aelod o staff byddwn yn ymateb yn syth, a bydd yn cael ei uwchgyfeirio fel bo’n briodol.
“Yr wythnos ddiwethaf, cafodd pryder yn ymwneud ag un o’n hunedau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn, Bryn Hesketh ym Mae Colwyn ei godi. Cafodd ei uwchgyfeirio at y tîm rheoli Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yr un diwrnod a’i godwyd.
“Rydym wedi dilyn y Broses Ddiogelu yn unol â Chanllawiau Cymru Gyfan ac wedi gwneud cyfeiriad at Awdurdod Lleol Conwy. Er mwyn cryfhau ein prosesau ymhellach, rydym wedi ceisio gwasanaeth swyddog ymchwiliadau allanol annibynnol.
“Mae’r ymchwiliad yn cynnwys chwe aelod o staff, sydd wedi cael eu gwahardd yn unol â gweithdrefnau. Mae’n bwysig pwysleisio bod hyn yn weithred niwtral.
“Nid ydym yn gallu rhannu unrhyw fanylion pellach am y mater hwn tra bod yr ymchwiliad ar y gweill.”