Mark Drakeford, Llun: Senedd TV
Bydd awdurdodau lleol yn cael eu gorfodi i gydweithio’n “rhanbarthol” er mwyn darparu gwasanaethau pwysig, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, heddiw.

Wrth iddo gyhoeddi “ffordd newydd ymlaen” i lywodraeth leol  yng Nghymru, dywedodd Mark Drakeford mewn datganiad yn y Senedd na fyddai newid i’r nifer presennol o 22 o awdurdodau lleol, ond byddai Llywodraeth Cymru’n helpu awdurdodau i uno’n wirfoddol petai rhai eisiau gwneud hynny.

Er bod rhai awdurdodau lleol eisoes yn cydweithio’n wirfoddol i ddarparu rhai gwasanaethau, byddai’r ffordd newydd hon o weithio’n rhanbarthol yn “systematig ac yn orfodol.”

Dau fodel

Meddai Mark Drakeford bod y Llywodraeth yn gweithio ar ddau fodel er mwyn annog cydweithio rhwng cynghorau. Byddai un yn seiliedig ar ddinas-ranbarthau fyddai’n gweld cynghorau’n gweithio gyda’i gilydd ar drafnidiaeth, cynllunio defnydd tir a datblygu economaidd.

Byddai’r ail fodel, sy’n dilyn ffiniau byrddau iechyd Cymru, yn gweld cydweithio rhwng cynghorau ar feysydd addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac amddiffyn y cyhoedd.

Ychwanegodd y byddai’n cyhoeddi cynlluniau mwy pendant erbyn y flwyddyn newydd.

Deng mlynedd

Cyhoeddwyd hefyd y bydd yr etholiad cyngor nesaf ar ôl 2017 yn cael eu cynnal yn 2022. Mae hyn yn cadarnhau cylch etholiadol parhaol o bum mlynedd ac yn rhoi deng mlynedd i lywodraeth leol barhau gyda’r gwaith diwygio.

Dywedodd Mark Drakeford wrth Aelodau’r Cynulliad heddiw: “Mae cynghorau’n darparu eu gwasanaethau mewn cyfnod o gyni, y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi’i alw’n gyfnod eithriadol o gwtogi gwariant ar wasanaethau cyhoeddus dros ddeng mlynedd neu fwy.

“Ymwelais â’r 22 awdurdod lleol dros yr haf, ac fe gefais gyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Undebau Llafur ac eraill. Rydw i wedi gwrando ar eu sylwadau a nawr mae gennym ffordd bosibl ymlaen. Byddai hyn yn golygu cadw’r awdurdodau lleol presennol – y “porth” i bobl gyrraedd at y gwasanaethau – ond gyda gwasanaethau allweddol yn cael eu darparu’n rhanbarthol.

“Y tu ôl i’r porth hwn byddai lefel uwch o gydweithio rhanbarthol gorfodol a systematig.  O ganlyniad, bydd mwy o sicrwydd i’r awdurdodau lleol o ran staffio a chyllid, a bydd modd cynllunio a darparu gwasanaethau ar y raddfa gywir.

“Wrth gwrs, efallai y bydd rhai awdurdodau am gryfhau fwy byth drwy uno’n wirfoddol, ac fe fyddwn yn eu helpu i wneud hynny.”

Agwedd benderfynol

“Rydw i am fod yn gwbl glir heddiw ein bod ni’n dechrau ar y daith newydd hon gydag agwedd benderfynol.  Rwy’n barod i weld cynnydd dros gyfnod synhwyrol ac ymarferol o amser, ond mae’n rhaid symud ymlaen.

“Erbyn y flwyddyn newydd, gyda chymorth llywodraeth leol, yr Undebau Llafur cydnabyddedig a phartneriaid eraill, rwy’n gobeithio y byddaf wedi pennu ffordd briodol ymlaen.”