Ched Evans (Llun: Chris Radburn/PA)
Roedd y pêl-droediwr Ched Evans wedi treisio dynes “a oedd yn rhy feddw i gydsynio,” clywodd llys heddiw.
Mae’r chwaraewr, 27 oed, a arferai chwarae i Gymru ac sydd bellach wedi arwyddo cytundeb gyda chlwb pêl-droed Chesterfield, yn wynebu ail achos yn ymwneud a honiadau o dreisio dynes mewn gwesty ger Y Rhyl ym mis Mai 2011.
Cafwyd Evans yn euog o dreisio’r ddynes ond cafodd y dyfarniad ei wyrdroi gan y Llys Apêl, clywodd Llys y Goron Caerdydd heddiw.
Mae Ched Evans, cyn-chwaraewr gyda Dinas Manceinion a Sheffield, yn gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn.
Ar ddiwrnod cyntaf yr ail achos yn ei erbyn clywodd y rheithgor bod yr ymosodiad honedig wedi digwydd mewn ystafell yn y Premier Inn yn Y Rhyl.
Roedd y ddynes, na ellir cyhoeddi ei henw, wedi cyrraedd y gwesty gyda dyn o’r enw Clayton McDonald a oedd wedi bod yn yfed a chymdeithasu gydag Evans.
Roedd Clayton McDonald wedi ffonio Evans i ddweud bod “ganddo ferch” ac fe gyrhaeddodd Evans y gwesty tua chwarter awr yn ddiweddarach mewn tacsi, meddai Simon Medland QC, ar ran yr erlyniad.
Honnir bod y ddau ddyn wedi cael rhyw gyda’r ddynes ar wahân.
Yn dilyn achos yn Llys y Goron Caernarfon, cafwyd Clayton McDonald yn ddieuog o dreisio’r ddynes ond cafwyd Evans yn euog o’r drosedd.
‘Rhy feddw’
Meddai Simon Medland QC bod y ddynes “yn rhy feddw i wybod beth ar y ddaear oedd yn digwydd… a’i bod wedi cael ei threisio gan y pêl-droediwr ifanc, ac nad oedd hi wedi cydsynio i gael rhyw gydag ef.
“Trais yw rhyw heb gydsyniad.”
Ar ôl i Ched Evans orffen yn yr ystafell, meddai’r erlyniad, fe adawodd drwy allanfa dân yn hytrach na mynd trwy fynedfa’r gwesty unwaith eto.
Ychwanegodd bod y ddynes wedi cael “sawl diod” a bod lluniau teledu cylch cyfyng yn ei dangos yn “sigledig iawn ar ei thraed.”
“Un esboniad mae hi’n ei roi am hyn yw’r teimlad – ac nid yw’n fwy na hynny – bod rhywun wedi rhoi rhywbeth yn ei diod,” meddai Simon Medland QC.
Ond ychwanegodd yr erlynydd na ellir profi hynny ac nad oedd yn awgrymu “mewn unrhyw ffordd” bod Evans wedi rhoi rhywbeth yn ei diod.
Cafodd Clayton McDonald ac Evans eu cyhuddo ar wahân o dreisio’r ddynes yn ddiweddarach, meddai.
Mae Simon Medland QC wedi apelio ar y rheithgor i ystyried y dystiolaeth yn unig ac i ddiystyru unrhyw beth maen nhw wedi ei ddarllen am yr achos cyn hyn.
Mae Evans yn gwadu’r cyhuddiad ac mae disgwyl i’r achos barhau am bythefnos.