Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol, Llun: Stefan Rousseau/PA Wire
Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi beirniadu “camreolaeth Llafur” o arian Ewropeaidd yng Nghymru yn ystod ei araith yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol ym Mirmingham heddiw.

Dywedodd: “16 mlynedd a £4 biliwn yn ddiweddarach, mae camreolaeth Llafur o’r cyllidebau yng Nghymru wedi gadael y cymunedau i lawr.

“Gymaint eu rhwystredigaeth, fe wnaeth yr ardaloedd hynny sydd wedi derbyn y mwyaf o arian yr Undeb Ewropeaidd (UE) bleidleisio’n gryf tros adael.

“Nid yw parhau gyda’r un cynlluniau gwario yn yr un hen ffyrdd ar ôl dau ddegawd yn opsiwn,” meddai wedyn.

‘Cyfyngiadau’

Mewn cyfweliad pellach ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, fe wnaeth Alun Cairns gydnabod fod Cymru wedi elwa o nifer o brosiectau yn deillio o arian Ewropeaidd.

Ond dywedodd wedyn: “Mae cyfyngiadau gynnon ni ar hyn o bryd gyda’r arian Ewropeaidd a lle mae’n cael ei wario, er enghraifft gydag ardaloedd o Bowys neu Fro Morgannwg yn y Barri sydd ddim yn cael elwa o’r arian Ewropeaidd yn yr un modd ag ardaloedd eraill.”

Cyfeiriodd at yr ‘ardaloedd eraill’ fel gorllewin a chymoedd Cymru.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Llafur Cymru.