Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Fe allai awdurdodau lleol Cymru gael eu “gorfodi” i weithio gyda’i gilydd yn fwy nag o’r blaen yn ôl cynllun newydd y mae disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ei gyhoeddi heddiw.
Mae disgwyl i Mark Drakeford wneud datganiad yn y Senedd y prynhawn yma am ddyfodol llywodraethau lleol Cymru.
Daw hyn wedi i’r Ysgrifennydd gefnu ar gynlluniau’r Llywodraeth flaenorol i dorri nifer y cynghorau lleol o 22 i wyth neu naw.
Mae lle i gredu y byddai’r cynllun newydd yn argymell yr awdurdodau lleol i weithio’n agosach ym meysydd iechyd, addysg, economi a chynllunio.
‘Peidio rhuthro’
Er hyn, mae’r Ceidwadwr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “beidio â rhuthro cynlluniau’r cynghorau.”
Dywedodd Janet Finch-Saunders, sy’n llefarydd y Ceidwadwyr ar Lywodraeth Leol ei bod yn croesawu’r penderfyniad i gefnu ar y cynlluniau cynt, ond:
“Mae angen i’r camau nesaf gael eu paratoi yn fanwl – nid eu rhuthro heb yr ystyriaeth gywir.
“Yn sicr, dydyn ni ddim eisiau gweld unrhyw ddyblygu diangen o wasanaethau,” meddai.
“Mae angen inni gael trafodaeth o ddifrif am ba wasanaethau y bydd awdurdodau lleol yn cael eu gofyn i’w darparu yn y dyfodol a datblygu system ar gyfer hynny.”
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu datgelu gan yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, yn hwyrach y prynhawn yma.