Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Fe fydd arbenigwyr o Ewrop yn dod ynghyd heddiw i drafod gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mewn cynhadledd yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd, bydd Menna Jones (Antur Waunfawr), Laura McAllister (Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru) ac Iwan Roberts (Hacio) yn trafod sut i fynd ati i normaleiddio defnydd o’r Gymraeg.
Nod y cyfarfod yw rhoi platfform i arbenigwyr drafod a chyfnewid gwybodaeth am ieithrwydd gwahanol Ewrop.
Bydd y prif anerchiad yn cael ei draddodi gan Patxi Bazterrikka, Gweinidog yr wrthblaid ar Fasgeg (Euskara), a fydd yn sôn am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Gymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg dros y degawdau diwethaf i gynyddu nifer y siaradwyr Basgeg.
Hefyd bydd yr Athro Rob Dunbar, Athro mewn Ieithoedd, Llenyddiaeth, Hanes a Hynafiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caeredin yn siarad am Reoleiddio a Hawliau Iaith o safbwynt Canada.
‘Iaith gadarn’
Mae’r digwyddiad yn rhan o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth ar gyfer y Gymraeg, a lansiwyd gan Brif Weinidog Cymru a Gweinidog y Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni. Bydd yn para tan ddiwedd mis Hydref.
“Mae Euskara wedi llwyddo i ailddyfeisio ei hun. Mae’n iaith gadarn, sy’n cynrychioli dewis personol ac undod cymunedol.
“Fel y Gymraeg, mae’n cynrychioli mwy na’r hawl i lefaru ei geiriau; mae’n cynrychioli’r hawl sydd gan bobl i ddewis eu hunaniaeth eu hunain, ac yn y pen draw, i greu eu hanes eu hunain. Yr iaith Fasgeg yw hanfod Gwlad y Basg,” meddai Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.