Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Llun: Gwefan y Ceidwadwyr
Tro arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yw hi heddiw i annerch aelodau’r Blaid Geidwadol yn eu cynhadledd ym Mirmingham a’i neges fydd; “Fe fyddwn ni’n gwneud Brexit yn llwyddiant.”

Yn ei araith, mae disgwyl i Andrew RT Davies ddweud fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi wynebu “sialensiau” dros y misoedd diwethaf, gan gydnabod eu siom o beidio â gwneud yn well yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Er hyn, fe fydd yn troi ei olygon wedyn at y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin, gan ddweud fod “llawer iawn o gyfleoedd” i Gymru drwy hyn.

‘Wynebu’r sialensiau’

“Fel yr unig arweinydd o blaid y brif ffrwd oedd yn ymgyrchu am y canlyniad yma [Brexit], yn aml roeddwn i’n teimlo fel llais unig yn y gwyll,” meddai.

Dywedodd fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dod at ei gilydd “i wynebu’r sialensiau a chroesawu’r cyfleoedd mae Brexit yn ei gynnig.

“Byddai Brexit, ynghyd â mwy o bwerau drwy Fesur Cymru, yn gyfleoedd sylweddol i Gymru,” meddai.

Roedd yn cydnabod fod credoau sylfaenol y blaid yn aros – “yr Undeb, menter am ddim, grymuso cymunedau,” ond bydd yn dweud hefyd fod “datganoli weithiau yn golygu fod Cymru yn llywio llwybr gwahanol.”

Er hyn, pwysleisiodd y byddai “gweithio gyda’n Prif Weinidog arbennig newydd, Theresa May, yn mynd i wneud Brexit yn llwyddiant.”

‘Gadael lle gwag yn y canol’

Bydd hefyd yn defnyddio ei araith yn y gynhadledd Geidwadol fel cyfle i feirniadu Llafur Cymru a Phlaid Cymru, gan ddweud fod Carwyn Jones yn y cyfnod wedi’r canlyniad wedi dangos “diffyg uchelgais, eglurdeb ac wedi codi bwganod.”

“O dan ei arweiniad ef, mae rhannau eang o Gymru yn dlotach na Bwlgaria a Romania, tra bod ein system addysg wedi’i raddio tu ôl i Macau,” meddai.

“Mae’r cenedlaetholwyr, ar y llaw arall, wedi defnyddio’r beidiais i adael fel cerbyd i ail-alw am annibyniaeth…. uchelgais y’n cael ei chefnogi gan gyfran o’r cyhoedd yng Nghymru.”

Am hynny, dywedodd fod y ddwy blaid hyn wedi “gadael lle gwag yn y canol yng ngwleidyddiaeth Cymru y mae’r Ceidwadwyr Cymreig mewn sefyllfa ddelfrydol i’w llenwi.”

Bydd Andrew RT Davies yn traddodi ei araith am 10.30 y bore yma yn y gynhadledd ym Mirmingham.