Meithrinfa Camau Bach, Aberystwyth Llun: Mudiad Meithrin
Mae aelod o staff meithrinfa wedi cael ei ddiswyddo ar ôl i blentyn gael ei adael ar fws am ddwy awr ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.
Roedd y plentyn yng ngofal meithrinfa Camau Bach yn Aberystwyth pan gafodd ei adael ar fws mini y tu allan i’r ganolfan ar 20 Gorffennaf.
Bryd hynny, cafodd yr aelod o staff oedd yn gyfrifol am y plentyn ei wahardd o’r gwaith ac fe gafodd y feithrinfa ei chau am wythnos. Cafodd yr achos ei gyfeirio at Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a’r Bwrdd Diogelu lleol hefyd.
Cadarnhaodd y Mudiad Meithrin heddiw bod aelod staff yng nghanolfan Camau Bach wedi cael ei diswyddo o ganlyniad i’r digwyddiad.
“Mae modd cadarnhau i aelod o staff Camau Bach gael ei diswyddo yn dilyn y digwyddiad nol ym mis Gorffennaf,” meddai llefarydd.
Camau Bach yw’r unig feithrinfa benodedig Gymraeg yn Aberystwyth ac mae’n cynnig gofal i blant rhwng chwe wythnos oed ac oed ysgol, gyda lle am hyd at 105 o blant.