Huw Edwards (Llun: BAFTA Cymru)
Mae yna ormod o faich ar ysgwyddau’r BBC i ddarparu gwasanaeth newyddion cyflawn o Gymru, meddai Huw Edwards, cyflwynydd un o brif raglenni newyddion y Gorfforaeth ar y rhwydwaith trwy wledydd Prydain.
Mewn anerchiad i theatr rwydd lawn yng Nghaernarfon dros y Sul, fe gyhoeddodd bod angen mwy o “leisiau” yn y sector, er mwyn rhoi ffocws ar Gymru, ei phobol a’i digwyddiadau.
Mae’r mwyafrif llethol o bapurau newydd yn dod o Loegr, meddai, ac mae cyrff darlledu eraill yn cynnig gwasanaeth tameidiog iawn, os o gwbwl. Ac mae persbectif yn brin, meddai Huw Edwards wedyn.
“Fe fydden i’n hoffi gweld y sector yn tyfu,” meddai. “Mae yna ormod o faich ar ysgwyddau’r BBC yng Nghymru, a does dim digon o gryfder yn sectorau eraill y cyfryngau yng Nghymru ar hyn o bryd.
“Ac fe fyddwch chi’n dweud, ‘beth ydych chi’n cwyno, rydych chi’n cael arian y drwydded deledu, ewch chi yn eich blaen, gwnewch eich gwaith yn iawn’… ond dyw e ddim yn iach pan bod un corff yn gorfod ysgwyddo cymaint o faich.
“Chi angen nifer o leisie,” meddai wedyn. “Ac felly, lle dw i’n y cwestiwn, fe hoffen i weld mwy o gryfder o ran y wasg a blogie ac yn y blaen… oherwydd ar y ffôn poced ac ar y tabled y mae’r dyfodol.
“Fe fydden i’n hoffi gweld ITV falle yn gwario mwy o arian ar eu hadnodde ac ar eu gwasanaeth newyddion; ac er bod Channel 4 yn pregethu’n fân ac yn amal am Channel 4 News, bach iawn maen nhw’n wneud o Gymru achos eu bod nhw’n meddwl bod S4C i’w gael… ond fe allen nhw wneud mwy.”
Gormod o sylw i’r de
Fe ddylai rhaglenni newyddion cenedlaethol wastad gael eu cynhyrchu yn y brifddinas, meddai Huw Edwards, mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud â gormod o straeon am lefydd yn ne Cymru ar fwletinau Cymreig.
“Caerdydd yw’r brifddinas, yn y de ddwyrain y mae’r mwyafrif o bobol Cymru’n byw, felly mae’n naturiol mai o Gaerdydd y daw’r rhaglen, ac felly y dylai hi fod,” meddai.
“Mae yr un mor wir am brinder straeon o’r de-orllewin, o lle dw i’n dod, ond mae’n rhaid i ni dderbyn rhai pethe. Mae’n rhaid i ni dderbyn hefyd bod newyddion drwg yn denu gwylwyr, a bod drwgweithredu hefyd yn yr un modd.
“Ond dychmygwch beth petai syniad Ron Davies (cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru) i fynd â’r Cynulliad i Abertawe, wedi digwydd? Fe fyddai hynny wedi newid pethe, oherwydd yn lle bynnag mae’r penderfyniade’n cael eu gwneud y mae’r straeon i’w cael.”