Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn 20 oed wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddio cwpl yn y brifddinas yr wythnos ddiwethaf.
Ymddangosodd Andrew Patrick Saunders gerbron y Barnwr Eleri Rees yn Llys y Goron Caerdydd heddiw drwy gyswllt fideo i gadarnhau ei enw yn unig.
Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Zoe Morgan, 21 oed, a Lee Simmonds, 33 oed, tu allan i siop ddillad Matalan ar Stryd y Frenhines ar Fedi 28.
Roedd y ddau yn gariadon ac yn gweithio yn y siop honno.
Dywedodd yr erlynydd, Michael Jones, wrth y gwrandawiad cychwynnol fod ymchwiliadau’r heddlu yn parhau i’r achos.
Mae Andrew Saunders wedi’i gadw yn y ddalfa tan ei wrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar Ragfyr 19.