Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru heddiw yn rhybuddio y gallai ansawdd bywyd ddirywio os nad oes camau’n cael eu cymryd i ddiogelu’r amgylchedd yn well.

Cafodd yr adroddiad, Cyflwr Adnoddau Naturiol, ei lunio yn sgil Ddeddf yr Amgylchedd, ac mae’n gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng cyflwr yr adnoddau naturiol a’r effeithiau ar iechyd pobol, ffyniant economaidd a lles cymdeithasol.

Yn ogystal, mae’n ystyried materion sy’n wynebu cynefinoedd naturiol sy’n gartref i fywyd gwyllt er mwyn deall yn well y dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Am hynny, mae’r adroddiad yn galw ar lunwyr polisïau ar draws y sector cyhoeddus i ystyried y risgiau sy’n wynebu adnoddau naturiol a’r manteision a ddaw yn eu sgil.

‘Gostwng ansawdd bywydau’

“Er mwyn i’n hadnoddau naturiol allu parhau i ddarparu ar ein cyfer a bod yn lle y gall bywyd gwyllt ffynnu ynddo, rhaid inni ddeall yn well ganlyniadau’r hyn a wnawn, a’u gwarchod yn well,” meddai Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau nid ydym yn ystyried gwerth llawn y manteision a ddaw i’n rhan yn sgil ein hadnoddau naturiol a’n hecosystemau,” ychwanegodd.

“O ganlyniad, mae ein gweithgareddau fel cymdeithas nid yn unig yn gostwng ansawdd ein bywydau ni ein hunain, ond hefyd ansawdd bywydau cenedlaethau’r dyfodol, wrth arwain at ddirywiad digyffelyb yn y bywyd gwyllt o’n cwmpas.”

Croesawu’r adroddiad

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, wedi croesawu’r adroddiad gan ddweud ei fod yn “gam enfawr ymlaen.”

“Fel cynnyrch cyntaf Deddf yr Amgylchedd, mae’n sylfaen tystiolaeth genedlaethol hollbwysig ar gyfer gweithredu ar y cyd i daclo’r materion a’r sialensiau sy’n wynebu ein hadnoddau naturiol a’n hecosystemau, gan sicrhau eu bod yn parhau i gyflawni er budd ffyniant a lles Cymru.”