Fe fydd actor ‘Monty Python’, Terry Jones a’r colurwraig Siân Grigg yn cael eu hanrhydeddu gan BAFTA Cymru mewn seremoni fawreddog yn Theatr Sherman yng Nghaerdydd nos Sul.

Siân Grigg yw deuddegfed enillydd Gwobr Siân Phillips, ac mae’n cael ei gwobrwyo am ei chyfraniad i’r broses o wneud ffilmiau.

Ymhlith y ffilmiau enwocaf y bu hi’n rhan ohonyn nhw mae ‘Titanic’.

Ymhlith enillwyr blaenorol y wobr mae’r cyfarwyddwr Euros Lyn, yr actorion Rhys Ifans a Ioan Gruffudd, yr awduron Russell T Davies a Ruth Jones a’r newyddiadurwr Jeremy Bowen.

Dywedodd mewn datganiad ei bod yn “anrhydedd” cael ei gwobrwyo, a’i bod yn “hyfryd” cael cydnabyddiaeth.

Bydd Terry Jones, a gafodd ei eni ym Mae Colwyn, yn derbyn gwobr Cyfraniad Rhagorol am ei waith fel un o awduron y gyfres ‘Monty Python’. Ymhlith ei weithiau eraill mae dramâu, rhaglenni dogfen, operâu byrion a straeon byrion.

Fe fu’n weithgar yn y maes ers 1969, ond fe gafodd wybod yn ddiweddar ei fod yn dioddef o ddementia sy’n effeithio ar ei allu i gyfathrebu.

Dywedodd llefarydd ar ei ran ei fod yn “falch” o gael cydnabyddiaeth gan BAFTA Cymru.

Bydd yn derbyn y wobr gan ei gyd-actor yn ‘Monty Python’, Michael Palin.

Mae gwahoddiad i’r cyhoedd fod yn y seremoni eleni wrth i BAFTA Cymru ddathlu chwarter canrif o wobrau.