Arwyn Roberts (llun o'i gyfrif trydar)
Hanfodion bod yn ffotograffydd yw gallu dod ymlaen â phobol a’u cael nhw i ymddiried ynoch chi, yn ôl un o ffotograffwyr blaenllaw Cymru, Arwyn Roberts.
Ar ôl gweithio i bapurau’r Herald yng Nghaernarfon am 40 mlynedd, mae ‘Arwyn Herald’ wedi cyhoeddi ei hunangofiant gyda digwyddiad wedi’i drefnu yng Nghaernarfon heddiw.
“Dw i wastad yn deud mai’r camera ydi’r ail beth pwysig, nid y peth cynta’. Y peth cynta’ ydy bod chdi’n gallu dod ymlaen efo pobol a chael eu parch nhw,” meddai wrth golwg360.
“Os nad ydi hwnna gen ti, mae’r job yn mynd i fod yn anodd iawn. Mae rhaid i chdi ddod ymlaen efo pobol a bod pobol yn ymddiried yndda’ chdi er mwyn dy fod di’n gallu gwneud y job yn iawn.”
Bydd Hunangofiant ffotograffydd papur newydd yn sôn am ei yrfa drwy’r lens yn cofnodi hanes lleol a chenedlaethol dros y degawdau.
Tân mawr yr Herald
Un digwyddiad fydd yn cael sylw yn ei lyfr fydd tanau Caernarfon yn yr 1980au, ac yn benodol, pan losgodd swyddfa’r Herald yn “ulw” yn 1938 yn dilyn tân anferthol.
“Mi gafodd Caernarfon danau mawr yn y cyfnod hwnnw ac oedd yr un yn yr Herald yr un mwyaf ohonyn nhw,” meddai Arwyn Herald.
“Dw i ddim yn mynd i ddatgelu gormod ond mae’r stori o sut drafferth cawson nhw â’r tanau yng Nghaernarfon a’r anhawster cawson nhw i roi’r tân i ffwrdd yn y llyfr.”
Bu hefyd yn gweithio ymhob Eisteddfod Genedlaethol ers 1979, gan hefyd gydweithio â’r prif weithredwr, Elfed Roberts, a oedd yn arfer bod yn newyddiadurwr gyda’r Herald.
Mae Elfed Roberts yn un sydd wedi cyfrannu at y llyfr, yn ogystal â phobol fel Elin Llwyd Morgan, Dafydd Wigley, Alun Ffred Jones a Bryn Terfel.
Cymru’r 80au ‘ar dân’
Yn ôl Arwyn Roberts, y cyfnod mwyaf cyffrous yn ei yrfa oedd yr 1980au a’r 1990au, gyda Chymru gyfan “ar dân” yn protestio.
“Ro’n i’n teimlo bod Cymru gyfan ar dân, roedd gen ti cymaint o brotestiadau’n digwydd, roedd gen ti Meibion Glyndŵr wrth gwrs, a’r ymgyrch am y Cynulliad,” meddai.
“Mi wnaeth pethau ddistewi wedyn a dw i’n meddwl munud ddaeth y Cynulliad, fe wnaeth pobol eistedd yn ôl a meddwl ein bod wedi cael be’ ydan ni isio.
“Mi stopiodd y ralïau a phrotestio am ychydig o flynyddoedd ond maen nhw wedi dechrau codi’n ôl rŵan ond yn bendant, yr 1980au a’r 1990au oedd y cyfnod cyffrous.”
Llyfrau eraill
Dyma’r trydydd llyfr iddo gyhoeddi, gyda’r ddau cyntaf, Drwy Lygaid y Camera ac Arwyn a’i Bobol yn llyfrau llun.
Mae’r llyfrau hynny eisoes wedi’u gwerthu yn eu miloedd ac mae’n gobeithio cyhoeddi un arall yn y “flwyddyn neu ddwy nesaf.”
Bydd Arwyn Herald yn trafod ei lyfr newydd fel rhan o benwythnos INC Galeri, Caernarfon heddiw am ddau o’r gloch.
Mae disgwyl i’r lansiad swyddogol fod o fewn y pythefnos nesaf yn Nhafarn y Bachgen Du, Caernarfon.