Mae teulu dyn 70 oed sydd wedi bod ar goll ers dydd Llun wedi cael gwybod fod Heddlu Gwent wedi dod o hyd i gorff yn afon Rhymni ger Bargoed.

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod hyd yn hyn, ond mae teulu Robert Evans wedi cael gwybod.

Dydy’r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.