Mae’r dyn 26 oed a gafodd ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad ym Mlaenafon ddydd Gwener wedi cael ei enwi gan Heddlu Gwent.

Cafodd yr heddlu eu galw i wrthdrawiad rhwng Renault Megane arian a lori Iveco Flatbed am oddeutu 12.15 brynhawn dydd Gwener.

Cafodd gyrrwr y Renault Megane, Adam Phillip Michael Millett ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn hofrennydd, lle bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd gyrrwr 25 oed y lori fan anafiadau.

Mae Heddlu Gwent wedi apelio am dystion.