Mae protestiadau’n cael eu cynnal yn yr Unol Daleithiau unwaith eto ar ôl i’r heddlu saethu dyn croenddu’n farw yn Los Angeles.
Roedden nhw wedi bod yn cwrso’r dyn mewn car ddydd Sadwrn, a’r gyrrwr wedi’i amau o ddwyn y cerbyd ac fe wrthododd stopio.
Yn ôl yr heddlu, daeth y dyn a gafodd ei ladd allan o’r car yr oedd yn teithio ynddo, a gwnaeth y gyrrwr ffoi.
Mae’r dyn wedi’i enwi’n lleol fel Carnell Snell Jnr, oedd yn 18 oed.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i ddryll yn y car.
Roedd dwsinau o brotestwyr ddydd Sadwrn wedi gorfodi cau ffyrdd yn yr ardal.
Mae rhai o’r protestwyr galw am roi rhagor o hyfforddiant i blismyn wrth ddefnyddio dryll.
Yr wythnos diwethaf, cafodd dynion croenddu eraill eu saethu’n farw gan yr heddlu yn San Diego a California.