Mae disgwyl i hyd at 22,000 o bobol fod yn y brifddinas ddydd Sul i redeg Hanner Marathon Caerdydd, sy’n cael ei darlledu ar y BBC.
Mae rhai ffyrdd yn y brifddinas wedi bod ynghau ers dydd Iau wrth i’r trefniadau gael eu cwblhau.
Cafodd Rhodfa’r Brenin Edward VII a chyffordd Rhodfa’r Amgueddfa hyd at gyffordd Rhodfa’r Brenin Edward VIII ar Heol y Coleg eeu cau ddydd Iau.
Ddydd Gwener, cafodd Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Gerddi’r Orsedd a Heol Neuadd y Ddinas eu cau.
Mae Heol y Coleg hefyd ynghau ers bore dydd Sadwrn.
Yn ystod y dydd heddiw, fe fydd Heol y Gogledd, yr A461, Ffordd y Brenin, Heol y Dug, Heol y Castell a Heol Ddwyreiniol y Bont-faen hefyd ynghau.
Bydd system cau ffyrdd yn raddol mewn grym o 9 o’r gloch tan 3 o’r gloch heddiw.
Bydd amryw ffyrdd ynghau yn ystod y ras fel a ganlyn:
• Wellington Street, Leckwith Road a Sloper Road – yn cau am 9.00am ac yn ail-agor am 11.00am
• Heol Penarth, Rhodfa’r Harbwr – yn cau am 9.00am ac yn ail-agor rhwng hanner dydd a 12.30pm
• Plas Roald Dahl, ar draws Plas Bute, Rhodfa Lloyd George, Stryd Herbert, Tyndall Street ac East Tyndall Street – yn cau am 9.00am ac yn ail-agor am 12.45pm
• Windsor Street, Adam Street, Fitzalan Road – ar draws Heol Casnewydd – West Grove a Richmond Road – yn cau am 9.00am ac yn ail-agor am 1.00pm
• Albany Road, Blenheim Road, Malborough Road a Ninian Road – yn cau am 9.00am ac yn ail-agor am 2.00pm
• Fairoak Road, Lake Road East a Lake Road West – yn cau am 9.00am ac yn ail-agor am 2.30pm
• Fairoak Road, Cathays Terrace, Heol Corbett a Rhodfa’r Amgueddfa – yn cau am 9.00am ac yn ail-agor am 3.10pm pan fydd y ras yn gorffen.