Llun gan un o'r dathlwyr, Rebecca Evans AC. Ar ei chyfri Twitter fe ddywedodd “Hyfryd dathlu sêr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru yn y Senedd heno!”
Cafodd athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru groeso adre’ i’w gofio ar ôl eu llwyddiant ym Mrasil dros yr haf.

Daeth cannoedd o bobol at y Senedd ym Mae Caerdydd neithiwr i longyfarch athletwyr y Gêmau Olympaidd a’r Gêmau Paralympaidd.

Roedd cyfanswm o 19 o fedalau wedi eu hennill gan athletwyr Cymru yn y gêmau ac roedd rhai o’r sêr mwya’, gan gynnwys y seiclwyr Becky James a Owain Doull, Aled Sion Davies y taflwr maen a Hannah Mills yr hwylwraig, yn y dathliad neithiwr.

Fe ddiolchodd y Prif Weinidog Carwyn Jones i’r athletwyr am ysbrydoli cenhedlaeth newydd o sêr chwaraeon a talodd deyrnged i’w gwaith caled ac awydd i ennill.

Etifeddiaeth

Er eu bod nhw’n llongyfarch “llwyddiant rhyfeddol” yr athletwyr yn Rio hefyd, roedd Plaid Cymru’n mynnu mai’r her nawr yw sicrhau bod etifeddiaeth i’r llwyddiant trwy ganiatáu i blant ac oedolion gymryd rhan mewn chwaraeon o bob math.

“Mae eu llwyddiant yn dangos bod Cymru yn gallu cynnal ei hun ar lwyfan y byd. Ein her yn awr yw sicrhau etifeddiaeth i’w llwyddiant,” meddai llefarydd y Blaid ar Chwaraeon a Thwristiaeth, Neil McEvoy.

“Fel gwleidyddion, mae’n rhaid i ni sicrhau y gall pobl ifanc sy’n cael eu hysbrydoli gan lwyddiant eu harwyr yn Rio nawr fynd ymlaen a gwneud eu hanes eu hunain.

“Mae hynny’n golygu sicrhau bod digon o gyfleoedd i bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon, trwy wneud caeau chwarae a mannau agored sydd ar gael yn y gymuned.”

Enillwyr y medalau yn Rio

Gêmau Olympaidd: Aur – Owain Doull, Jade Jones, Hannah Mills, Elinor Barker; Arian – Victoria Thornley, Becky James (2), Jazz Carlin (2), James Davies a Sam Cross

Gêmau Paralympaidd: Aur – Aled Siôn Davies, Rachel Morris, Hollie Arnold, Rob Davies; Arian – Aaron Moores a Jodie Grinham; Efydd – Sabrina Fortune a Phil Pratt.