Chris Coleman, rheolwr Cymru
Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi pwy sydd yn y garfan ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2018 yn erbyn Awstria nos Iau nesa’, Hydref 6.
Mae Aaron Ramsey allan oherwydd anaf, fel y ag y mae Jonny Williams.
Mae David Edwards yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli’r gêm yn erbyn Moldofa ar ddechrau’r mis.
Y garfan
Golwyr: Wayne Hennessey, Danny Ward, Owain Fôn Williams.
Amddiffynwyr: Ben Davies, James Chester, James Collins, Paul Dummett, Chris Gunter, Jazz Richards, Neil Taylor, Ashley Williams.
Canol cae: Joe Allen, David Edwards, Emyr Huws, Andy King, Tom Lawrence, Joe Ledley, Shaun MacDonald.
Ymosodwyr: Gareth Bale, Simon Church, David Cotterill, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes.