Y diweddar Muammar Gaddafi
Mae un o bedwar aelod o Blaid Cymru a aeth i gwrdd â’r Cyrnol Gaddafi yn Libya yn 1976, yn dweud fod yna rai pethau yr oedd yr unben yn ei wneud a oedd i’w hedmygu.
Ac un o’r pethau hynny oedd y modd yr oedd yn defnyddio elw o’r diwydiant olew i ariannu sustemau addysg a iechyd ei wlad ei hun.
“Mi’r oeddwn i’n gweld pam bod gan Libya enw da iawn am eu gwasanaeth iechyd a’u trefn addysg,” meddai Carl Clowes wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon. “A does dim dwywaith, yng nghanol y 1970au, roedd gan Libya y drefn addysg ac iechyd orau yn Affrica oll.
“Roedd o’n rhywbeth i’w werthfawrogi yn fawr iawn… roedd [Gaddafi] yn sicrhau bod y cwmnïau o Brydain neu America yn cael eu ffrwyno i ryw raddau… wnaeth hynny gryn argraff arna’ i, y ffaith bod y wlad i’w gweld yn dra llewyrchus…
“Ac, mewn ffordd,” meddai Carl Clowes wedyn, “mi fyswn i’n dweud bod Plaid Cymru ar y pryd yn ceisio sicrhau bod ganddoch chi drefn Sosialaidd i osgoi eithafiaeth y cwmnïau rhyngwladol sydd wedi mynd i gael mwy o ddylanwad ar bethau erbyn hyn.”
£25,000 i Blaid Cymru
Ar ddiwrnod ola’r ymweliad fe ddywedodd un fu’n tywys pedwar Plaid Cymru – Phil Williams, Brian Morgan Edwards, John Lewis a Carl Clowes – o amgylch Libya: ‘Gawn ni weld sut fedrwn ni fod o help i chi’.
“Roedd hynny yn dipyn o syrpreis,” meddai Carl Clowes, gan adrodd fel y clywodd ar ôl dychwelyd adref fod y Blaid wedi derbyn £25,000 gan yr unben – “at ddibenion cyffredinol, heb amodau yn perthyn iddo fo”.
Mae Carl Clowes yn adrodd ei hanes yn ei hunangofiant, Super Furries, PrinsSeeiso, Miss Siberia – a Fi, sy’n cael ei gyhoeddi Hydref 1.
Mae Carl Clowes yn adnabyddus am ei waith yn sefydlu canolfan dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn, yn gwrthwynebu atomfa niwclear Wylfa Newydd, ac yn dad i ddau o aelodau’r band poblogaidd y Super Furry Animals.
Fe gafodd Y Cyrnol Muammar Gaddafi ei ladd yn 2011 mewn rhyfel cartref yn Libya.
Mae modd darllen y cyfweliad â Carl Clowes yn llawn yn Golwg, Medi 29.