Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Mae ymdrech o’r newydd gan gefnogwyr Jeremy Corbyn i oedi penodiadau gan arweinwyr yng Nghymru a’r Alban i gorff llywodraethol y blaid Lafur, wedi methu heddiw.

Daw hyn ddiwrnod yn unig wedi i Jeremy Corbyn ei hun fethu ag atal yr arweinydd Llafur yng Nghymru, Carwyn Jones, ac arweinydd Llafur yr Alban, Kezia Dugdale, neu eu cynrychiolwyr, rhag eistedd ar Fwrdd Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) y blaid.

Yn hytrach, fe wnaeth y pwyllgor yng nghynhadledd y blaid yn Lerpwl ddoe bleidleisio o blaid rhoi mwy o hunanlywodraeth i’r blaid yn yr Alban ac yng Nghymru.

‘Cefnogi’r ymrwymiadau’

Heddiw, fe gyflwynodd cefnogwyr Jeremy Corbyn gynnig o’r newydd yn erbyn y newidiadau am eu bod yn ofni y gallai hynny wanhau dylanwad yr arweinydd Llafur ar y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol.

Mae rhai wedi beirniadu y byddai pleidleisio ar y newidiadau drwy un pecyn yn “annemocrataidd.”

Ond, fe wnaeth cadeirydd yr NEC, Paddy Lillis, ofyn i’r gynulleidfa am eu barn am gyflwyno’r newidiadau gan ddweud fod nifer “llethol” o blaid eu cyflwyno fel un pecyn.

Ychwanegodd Andy Kerr sy’n aelod o’r NEC: “Rydym wedi gwneud ymrwymiadau i Gymru ac i’r Alban. Mae’n rhaid inni gefnogi hyn.”