Derfyn Thomas (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae’r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth am ddyn o Gaernarfon sydd wedi bod ar goll ers pum diwrnod.

Cafodd Derfyn Thomas sy’n 45 oed ei weld am y tro olaf ym Mangor am tua 9:00yb ddydd Iau, 22 Medi. Roedd yn gwisgo crys polo glas a jîns.

Roedd ganddo anaf i’w wddf ar y pryd ac mae’r heddlu a’i deulu yn bryderus am ei les.

Gofynnir i unrhyw un a gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.