Mae babanod sy’n cael eu geni’n gynnar yng Nghymru yn wynebu risgiau, meddai meddygon Llun: PA
Mae babanod sy’n cael eu geni’n gynnar yng Nghymru yn wynebu risgiau oherwydd methiannau yn y system ofal, yn ôl meddygon plant blaenllaw.

Mewn adroddiad gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH), mae arbenigwyr wedi canfod nad yw Cymru’n cyrraedd y safon mewn sawl maes allweddol yn ystod 2015.

Roedd pryder difrifol hefyd am y risg o hypothermia sy’n wynebu babis sy’n ieuengach na 32 wythnos ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban. Ni chofnodwyd tymheredd 5.5% o fabis o fewn awr o’u geni, sy’n cynyddu risg o salwch neu farwolaeth, meddai meddygon y RCPCH.

Ol-asesu

Mae tua 750,000 o fabis yn cael eu geni yng Nghymru, Lloegr a’r Alban bob blwyddyn ac fe fydd un o bob wyth, neu 95,000, yn cael gofal arbenigol mewn uned i fabanod sy’n cael eu geni’n gynnar neu sydd â phroblem iechyd.

Dangosodd yr adroddiad mai dim ond 31% o fabanod cynnar yng Nghymru oedd yn cael ôl-asesiad yn ddwy oed, o’i gymharu â chyfartaledd o 60% yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Ac mewn 20% o achosion, ni chafodd y rheini yng Nghymru ymgynghoriad gydag uwch aelod o’r adran newydd-anedig o fewn 24 awr, o’i gymharu â 12% ar draws y bwrdd.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried a’i ddefnyddio i fynd i’r afael a’r methiannau dan sylw.

‘Canoli gwasanaethau’

Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd heddiw, fe wnaeth Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas, alw ar y Llywodraeth i sicrhau mwy o wasanaethau pediatrig a newydd-anedig yng Nghymru – gan gyfeirio at Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

“Mae’r ystadegau diweddaraf yn profi, unwaith eto, bod ymgyrch hir a ddiangen y Blaid Lafur i ganoli gwasanaethau pediatrig hanfodol o’n cymunedau lleol wedi bod yn gamgymeriad,” meddai Simon Thomas.

“Rwyf wedi ymgyrchu’n gyson yn erbyn ymgyrch Llywodraeth Cymru i ganoli’r gwasanaethau angenrheidiol hyn i ffwrdd o Ysbyty Llwynhelyg i Ysbyty Glangwili ac mae adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatrig yn cytuno nad yw Llywodraeth Llafur Cymru wedi cwrdd â gofynion Plaid Cymru ac ymgyrchwyr brwd Sir Benfro sydd wedi ymgyrchu yn erbyn cau’r gwasanaethau lleol.

“Unwaith eto, gwelwn rethreg wag Llywodraeth Cymru gan nad yw’r Cynllun Iechyd Plant yn sicrhau darpariaeth o wasanaethau a gofal sylfaenol a hollbwysig.”