David Taylor (llun o'i wefan)
Un sydd ddim yn hapus â chael Jeremy Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur yw David Taylor, ymgeisydd Llafur at etholiadau Comisiynydd yr Heddlu yn y gogledd.
Dywedodd wrth golwg360 bod gan y blaid “broblem fawr” ac nad yw hi’n bosibl i Jeremy Corbyn arwain y blaid ar ôl i “80% o aelodau seneddol Llafur ddweud ei bod nhw eisiau cael gwared arno fo.”
“Dw i ddim yn gweld ffordd allan o’r broblem ar hyn o bryd, mae gennym ni ryw fath o constitutional crisis… achos mae gennych chi wrthblaid yn San Steffan sydd jyst ddim yn gweithio, sydd ddim yn rhoi unrhyw wrthwynebiad i’r Llywodraeth,” meddai.
“Mae o’n llanast tu hwnt.”
Doed e ddim chwaith yn hyderus y gall y blaid uno yn dilyn y dadlau ffyrnig sydd wedi bod rhwng cefnogwyr Corbyn ar ochr chwith y blaid a’r cefnogwyr mwy i’r canol a dde’r blaid.
“Y syniad bod pawb yn medru dod at ei gilydd unwaith eto a gweithio gyda’i gilydd, dw i ddim yn credu bydd hynna’n digwydd, mae’n sefyllfa beryglus i’r blaid.”
Carwyn Jones – galw am undod
Mae aelodau blaenllaw y Blaid Lafur wedi galw ar aelodau’r Blaid i uno, gan gynnwys Carwyn Jones, a ddywedodd yn ei araith i’r gynhadledd heddiw fod angen i aelodau “drin ei gilydd â pharch.”
Gorffennodd arweinydd Llafur Cymru ei araith â geiriau’r bardd Hedd Wyn, “Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng”, gan ddweud nad yw am weld Llafur yn mynd drwy gyfnod “sur” eto.