Scott Penlington
Mae teuluoedd dau ddyn fu farw yn dilyn damwain awyren fechan ‘microlight’ ger Llanfair ym Muallt wedi cyhoeddi teyrngedau iddyn nhw.

Cafodd Nick Jefferies a Scott Penlington, o Holmes Chapel yn Sir Gaer, eu lladd pan blymiodd yr awyren i i gae ddydd Sul diwethaf.

Nick Jefferies

Dywedodd teulu Nick Jefferies ei fod wastad yn chwilio am antur ac yn cael ei ysgogi gan ei “gariad at fywyd”.

Dywedodd ei ferch Emily a’i fab Oliver mewn datganiad y byddai eisiau cael ei gofio “am ei straeon, ei gyngor a’i awydd i fyw bywyd heb gyfyngiadau”.


Nick Jefferies

Scott Penlington

Dywedoddteulu Scott Penlington ei fod yn hwyliog, yn garedig ac yn byw bywyd i’r eithaf gan ychwanegu ei fod wedi eu gwneud “yn falch iawn a bydd colled dirfawr ar ei ôl”.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r ddamwain. Hefyd mae ymchwiliad ar wahân yn cael ei gynnal gan yr Adran Ymchwilio Damweiniau Awyr Annibynnol.